1. Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (94) |
Datganiad gan y Llywydd: Cydsyniad Brenhinol - Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.
Cyhoeddodd y Llywydd y rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 ar 12 Tachwedd. Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar Gomisiwn y Cynulliad i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.
Cyfeiriodd y Llywydd hefyd at y ffaith bod hwn yn achlysur hanesyddol gan mai hon oedd y Ddeddf Cynulliad gyntaf i gael Cydsyniad Brenhinol.
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13:30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14:22
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl y Fforwm Clinigol Cenedlaethol yn ad-drefnu’r GIG yng Nghymru. EAQ(4)0191(HSS)
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14:29
3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – adroddiad cynnydd chwe mis – gohiriwyd o 6 Tachwedd
Dechreuodd yr eitem am 14:44
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun “Gwella Ysgolion”, a gyhoeddwyd ar 10 Hydref 2012
Dechreuodd yr eitem am 15:19
5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Newydd i Adolygu Ymarfer Plant – Diogelu ac Amddiffyn Plant yn Well
Dechreuodd yr eitem am 15:56
6. Dadl ar y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14
Dechreuodd yr eitem am 16:24
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 fel ei bod:
a) yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i doriadau mewn termau real o £493 miliwn dros dair blynedd;
b) yn diwallu anghenion busnesau yng Nghymru, sy’n hanfodol wrth greu cyflogaeth;
c) yn cau’r bwlch cyllido rhwng disgyblion ysgol yng Nghymru a Lloegr; a
d) yn sicrhau darpariaeth i liniaru’r codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yng Nghymru lle mae’r esgid ariannol yn gwasgu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
10 |
32 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu wrth y bwlch mewn gwariant ar addysg rhwng Cymru a Lloegr a fydd yn gwaethygu oherwydd na lwyddwyd i gynyddu’n sylweddol y Grant Amddifadedd Disgyblion yn 2013/14.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
21 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r Gyllideb Ddrafft yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg mynediad at driniaethau arloesol yn y GIG.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
10 |
26 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM5087 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 2 Hydref 2012.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
10 |
16 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18:01
Daeth y cyfarfod i ben am 18:03
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 14 Tachwedd 2012